Adnoddau i gefnogi addysgu a dysgu Cyfrifiadureg TGAU. Mae’r deunyddiau’n gyflwyniad i brif gysyniadau theori’r pwnc, a dylid eu defnyddio ar y cyd ag adnoddau eraill, yn ogystal ag addysgu yn yr ystafell ddosbarth.
Mae cyfres o unedau rhyngweithiol wedi eu creu i gyd-fynd a’r adnodd hwn a nodir lle mae’r adnoddau rhyngweithiol yn berthnasol i’r nodiadau gyda blwch glas a rhif ar ymyl dde'r dudalen. Wrth ddefnyddio’r adnoddau ar-lein mae modd clicio ar y rhifau i agor yr unedau rhyngweithiol. Bwriad yr adnoddau yma yw esbonio ymhellach rhai agweddau o’r gwaith ac maent yn addas i’w defnyddio ar fyrddau gwyn ym mlaen y dosbarth.
Cyhoeddwyd dan nawdd Cynllun Adnoddau Addysgu a Dysgu CBAC ac ariennir yn rhannol gan Lywodraeth Cymru.