Mae’r pecyn hwn yn cynnig arweiniad i athrawon ar sut i godi safonau llythrennedd ymhlith dysgwyr trwy ddefnyddio caneuon.
Mae'r pecyn yn cynnwys 22 o ganeuon gwreiddiol; fe’u hysgrifennwyd gan Leah Owen ac fe’u cynhyrchwyd gan Ynyr Llwyd. Cynhwysir geiriau a sgôr ar gyfer pob cân ynghyd â gweithgareddau atodol y gellir eu defnyddio i ddatblygu cywirdeb iaith.
Sylwer: Mae’r tudalennau sy’n cynnwys lluniau plant wedi’u hepgor ar y copi PDF hwn. O’r herwydd bydd bylchau hwnt ac yma yn nilyniant y rhifau.
Cyhoeddwyd yn wreiddiol yn 2011.
© y caneuon Leah Owen
Cyhoeddir y caneuon â chaniatâd caredig Leah Owen.