Uned sy’n cynnig cymorth i ddisgyblion lunio brawddegau eglur o restrau o idiomau. Yn yr uned rhennir 43 idiom i bedwar grŵp er mwyn hwyluso’r addysgu a’r dysgu. Ceir cyfle yma i’r athrawon ddatblygu sgiliau llafaredd, darllen ac ysgrifennu’r disgyblion trwy ddilyn y gweithgareddau ynghyd â datblygu’r sgiliau allweddol a sgiliau meddwl a datrys problemau. Ceir cyflwyniadau dosbarth ynghyd â gemau am ystyron yr idiomau ac ymarferion perthnasol ar gyfer y disgyblion. Yn ogystal â hyn, ceir tasgau i’r disgyblion eu cwblhau er mwyn sicrhau eu bod yn dod i wybod, deall a defnyddio’r idiomau’n llwyddiannus. Mae’r uned hon yn cyd-fynd â manyleb Uwch Gyfrannol newydd Cymraeg Ail Iaith CBAC