Mae’r gweithgareddau hyn yn defnyddio gwybodaeth am lifogydd a’r wybodaeth am lefelau afonydd a môr a ddarperir gan Asiantaeth yr Amgylchedd (Cyfoeth Naturiol Cymru erbyn hyn). Mae’r wybodaeth yma yn bwysig i bobl sy’n byw mewn ardaloedd lle mae risg uchel o lifogydd er mwyn iddynt allu penderfynu beth i’w wneud wrth i lefelau’r dŵr newid. Lleolir gorsafoedd monitro sy’n mesur lefelau afonydd, llynnoedd a dŵr daear ledled Lloegr a Chymru a chymerir mesuriadau yn electronig gan sensoriaid sydd wedyn yn eu hanfon yn awtomatig yn ôl i’r Asiantaeth.