Erbyn diwedd yr uned dylai'r disgyblion ddeall bod testun cyfryngol wedi ei lunio yn ofalus ac yn fwriadol er mwyn targedu cynulleidfa arbennig, ac i sicrhau ymateb penodol. Dylid ystyried pob uned fel man cychwyn yn unig, neu fel cymorth i adolygu - nid ydynt yn cynnwys yr holl waith sydd ei angen wrth astudio'r maes. Mae pob uned yn cynnig enghreifftiau a gweithgareddau i'w defnyddio gyda'r disgyblion yn y dosbarth gan gynnwys gwaith ar: Semioteg sylfaenol – systemau arwyddion a dadansoddi delweddau gweledol, Codau cyflwyno - saethiadau a symudiad camera, Cynrychioliad - dynodiad a chynodiad,Trin delweddau – angori a chropio.
Er bod yr holl adnoddau’n gywir ar adeg eu cyhoeddi, dylai athrawon fod yn ymwybodol bod pethau’n symud yn gyflym yn niwydiant y cyfryngau ac felly dylent wirio bod y wybodaeth yn dal yn gyfredol ac yn gywir.