Resource
supporting image for Datrys Problemau - Trin Data
Information
Published: 26 September 2013
Authors:
- NGfL Cymru
Related Resources
Datrys Problemau - Algebra
Mathemateg
Datrys Problemau - Rhif
Mathemateg
Siâp a Mesurau
Mathemateg
Mathemateg Llwybrau Mynediad
Mathemateg
Llythrennedd trwy Fathemateg
Mathemateg, Tîm Cefnogi'r Gymraeg

Datrys Problemau - Trin Data

Mathemateg
CA4 >

Cyfres o adnoddau i gefnogi addysgu dulliau a thechnegau datrys problemau mewn Trin Data a fydd yn gymorth i fyfyrwyr baratoi ar gyfer y cwestiynau datrys problemau newydd sy’n rhan o Haen Uwch TGAU Mathemateg

Mae yna 5 problem wedi eu creu o fewn PowerPoint ac mae pob cwestiwn yn rhoi help llaw neu yn cynnig awgrym neu gliw ar sut i daclo'r broblem. Mae’r atebion hefyd yn cael eu darparu.

Mae'r fideo o'r cwestiwn enghreifftiol yn arwain myfyrwyr cam wrth gam trwy'r proses datrys problemau. Ceir hefyd ffeil PowerPoint cyfatebol er mwyn i athrawon gynnig esboniad eu hunain os oes angen.

Ar gyfer y fideos Partneriaid Siarad, mae angen i fyfyrwyr benderfynu pa ddisgybl sydd wedi rhoi'r datrysiad cywir i'r broblem. Ydyn nhw yn gallu gweld y camsyniad a’i gywiro?

Mae yna hefyd banc o gwestiynau wedi eu cymryd o hen bapurau a phapurau peilot, sydd wedi eu trefnu yn ôl topigau. Mae yna hefyd enghreifftiau o gwestiynau o'r Dystysgrif Level 2 Mathemateg Ychwanegol i ymestyn y myfyrwyr mwyaf galluog.

Rydym yn ddiolchgar i’r canlynol am eu cyufraniadau: Julie Watt, (Ysgol Gyfun Brynteg – Pen-y-bont ar Ogwr), Kerry Templeton, (Ymgynghorydd Athrawon Abertawe), Catrin Evans, (Ysgol Gyfun Llangynwyd - Pen-y-bont ar Ogwr), Caron Jones, (Ysgol Gyfun Cymer Rhondda – Rhondda Cynon Taf).

 

Mathemateg
Datrys Problemau
Haen Uwch
Files
Cwestiynau ac Atebion
Cwestiwn modelu
Partneriaid Siarad
Cwestiynau o Hen Bapurau

Feedback

Not seeing what you want? Is there are problem with the files? Do you have a suggestion? Please give us feedback, we welcome all correspondence from our users.