Rhoddir cyfle i ddysgwyr ddangos pa mor dda maen nhw wedi datblygu eu sgiliau drwy'r rhaglen addysgu a dysgu. Bydd yr adnodd hwn hefyd yn datblygu ymhellach y Sgiliau Penodol sydd eu hangen ar gyfer asesu Project Cymuned Byd-eang. Bydd dysgwyr yn gallu cwblhau gweithgaredd ar gyfer tri o'r Sgiliau Cyfannol – Cynllunio a Threfnu; Meddwl yn Feirniadol a Datrys Problemau; a Chreadigrwydd ac Arloesi. Mae gan bob gweithgaredd dasgau sy'n gysylltiedig â'r Sgiliau Penodol.
I gefnogi datblygiad y sgìl Effeithiolrwydd Personol, gall dysgwyr gofnodi eu cyflawniad ar gyfer pob gweithgaredd yn eu Cofnod Meithrin Sgiliau Personol.