Datblygwyd Cydymaith Cwrs CBAC 'Fy Nhaith' er mwyn cefnogi’r dysgwyr drwy gydol y cymhwyster. Mae'n cynnwys trosolwg o'r cymhwyster a'r cydrannau, ac mae hefyd yn darparu amrywiaeth o weithgareddau mewn cyd-destun bywyd go iawn, er mwyn ymgysylltu’r dysgwyr wrth iddynt ddatblygu eu sgiliau. Bydd yr adnodd hwn, ynghyd â'r 'Cynllunio Taith Rithwir' yn sicrhau cyflwyniad cynhwysfawr i'r cymhwyster ac yn cefnogi'r broses o drosglwyddo o'r Dystysgrif Her Sgiliau Cenedlaethol/Sylfaen, o ran safon y sgiliau sydd eu hangen ar y lefel hon.
Nodir cerrig milltir gydol y daith fel y gall dysgwyr gynllunio eu camau nesaf eu hunain trwy weithgareddau ymarfer priodol gan eu helpu i fod yn fwy annibynnol a gwydn. Mae yna gyngor i ddysgwyr ynglŷn ag asesu pob Project a sut i baratoi er mwyn cyflawni eu gorau.