Mae'r adnodd dysgu cyfunol hwn â chynnwys hunan-astudio rhyngweithiol sy'n cwmpasu agweddau pwysig ar sgiliau Cynllunio a Threfnu.
Mae'r adnoddau wedi'u cynllunio i ategu addysgu wyneb yn wyneb traddodiadol a gwella cyfleoedd dysgu. Maent yn cynnwys enghreifftiau perthnasol, a gweithgareddau lle gall myfyrwyr gymhwyso eu sgiliau naill ai'n unigol neu gydag eraill. Mae cyfle i athrawon roi adborth i'r myfyrwyr am ba mor dda y maent wedi perfformio.
Bwriad yr adnoddau yw helpu myfyrwyr i wella eu sgiliau cynllunio a threfnu mewn perthynas â rhai o sgiliau penodol y Sgiliau Cyfannol y bydd myfyrwyr yn cael eu hasesu arnynt o fewn y cwrs Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch. Gellir defnyddio'r adnoddau hefyd fel dull i adolygu gan fyfyrwyr, neu fel cyfle i ail-edrych ar gyfer gwersi a gollwyd.
Dylid defnyddio'r adnoddau hyn ar y cyd â deunyddiau addysgu a dysgu eraill i ddarparu rhaglen astudio gynhwysfawr i'r myfyrwyr.