Nod y cymhwyster Bagloriaeth Cymru Uwch yw caniatáu dysgwyr i ddatblygu ac arddangos dealltwriaeth o sgiliau hanfodol a chyflogadwyedd ynghyd â phrofi eu hyfedredd yn y sgiliau hyn. Mae'r adnodd yn fan cychwyn wrth gyfleu gwybodaeth a gwella a chymhwyso sgiliau wrth baratoi ar gyfer yr Her Dinasyddiaeth Fyd-eang.
Mae Adran A yn canolbwyntio ar ddatblygu Gwybodaeth Sgiliau. Mae hyn yn ymwneud â'r tri sgil o blith y Sgiliau Hanfodol a Chyflogadwyedd fydd yn cael eu hasesu yn yr Her Dinasyddiaeth Fyd-eang: Meddwl yn Feirniadol a Datrys Problemau; Creadigedd ac Arloesi a Llythrennedd.
Mae Adran B yn canolbwyntio ar Gymhwyso Sgiliau gan ddefnyddio'r chwe thema yn y Materion Byd-eang sydd ar gael ar gyfer asesiad ar y lefel Uwch. Mae hyn yn helpu i baratoi dysgwyr i gynhyrchu Safbwynt Personol ar fater byd-eang gan ddefnyddio amrywiaeth o wybodaeth.
Mae Adran C yn canolbwyntio ar Fyfyrdod Sgiliau